Mae’r Cynulliad wedi pleidleisio tros Fesur Cymru, gan glirio’r ffordd iddo gael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin a’i weithredu cyn diwedd y flwyddyn.
Yn y diwedd, roedd cefnogaeth y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn ddigon, er fod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cydnabod ei fod yn “amherffaith”.
Roedd Plaid Cymru ac UKIP yn erbyn, gyda’r bleidlais ddiwedd y dydd ddoe yn 38-17 o blaid.
Y pryderon
Pryder Plaid Cymru yw y bydd y mesur newydd yn gam yn ôl yn y drefn ddatganoli – er y bydd yn rhoi rhai hawliau ychwanegol hefyd, gan gynnwys yr hawl i fenthyg hyd at £1 biliwn.
Ond mae arbenigwyr anninbynnol fel Victoria Winckler o gorff ymchwil Sefydliad Bevan hefyd wedi rhybuddio y gall arwain at gipio grym gan San Steffan.
Mae’r Mesur yn dilyn yr egwyddor yn yr Alban o ddatganoli popeth heblaw rhai grymoedd sy’n cael eu cadw yn San Steffan.
Ond mae’r Mesur hefyd yn rhoi grym i Lywodraeth Prydain mewn meysydd sy’n ‘berthnasol’ i’r grymoedd hynny ac, yn ôl y beirniaid, fe allai hynny olygu taflu’r rhwyd yn eang iawn a chymryd rhai grymoedd sydd ar hyn o bryd gan y Cynulliad.
‘Hyn neu ddim’
Fe gafodd y Mesur ei feirniadu’n hallt yn ystod ei daith trwy Dŷ’r Arglwyddi yn ystod yr wythnosau diwetha’ ac, er ei bod wedi ei gymeradwyo yn y pen draw, roedd y farwnes Lafur ac AC, Eluned Morgan, yn ei al wyn “llanast mewn sawl ffordd”.
Roedd ACau yn wynebu dewis o “hyn neu ddim” gyda gweinidogion Swyddfa Cymru yn rhybuddio’n breifat y byddai gwrthod y Mesur yn golygu oedi am flynyddoedd.
Y ddadl oedd y byddai amser seneddol yn brin iawn o hyn ymlaen oherwydd yr holl newidiadau fydd eu hangen yn sgil Brexit.