Bradley Manning, cyn newid ei henw i Chelsea
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi lleihau dedfryd Chelsea Manning, y cyn-filwr sydd wedi’i charcharu am 35 o flynyddoedd am gyhoeddi cudd-wybodaeth drwy wefan Wikileaks.
Mae’n golygu y bydd hi’n cael ei rhyddhau bron i 30 o flynyddoedd yn gynnar.
Fe aeth i’r carchar fel Bradley Manning cyn newid ei henw i Chelsea tra’r oedd hi dan glo. Roedd Bradley Mannning wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Mae 273 o bobol wedi cael clywed y byddan nhw’n treulio llai o amser dan glo, wrth i Barack Obama baratoi i adael y Tŷ Gwyn.
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth Chelsea Manning gais i gael lleihau ei dedfryd. Fe’i cafwyd yn euog yn 2013 o chwe throsedd o dan y Ddeddf Ysbïo a 14 o droseddau eraill am gyhoeddi tros 700,000 o ddogfennau a fideos ar Wikileaks.
Yn ôl Chelsea Manning, roedd cyhoeddi’r dogfennau’n ymgais i godi ymwybyddiaeth o effaith rhyfel Irac ar bobol gyffredin. Mae hi wedi ceisio lladd ei hun ddwywaith yn y carchar, yn ôl ei chyfreithwyr.