Mae Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn 56 oed sydd wedi bod ar goll o Ferthyr Tudful.
Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond dywed yr heddlu bod teulu Keith Davies o Droed-y-rhiw wedi cael gwybod.
Nid oedd Keith Davies wedi cael ei weld ers canol dydd ddydd Sadwrn, 14 Ionawr.