Cefin Roberts - wedi rhoi rhif anghywir ar ffurflen fisa
Mae Côr Glanaethwy yn hedfan i Efrog Newydd i ganu yn Neuadd Carnegie… heb eu harweinydd.
Fe gafodd Cefin Roberts ei rwystro rhag mynd ar yr awyren ym maes awyr Manceinion yn oriau mân fore Iau, a hynny oherwyd iddo wneud camsyniad wrth lenwi ffurflen fisa.
Er mwyn cael hedfan i’r Unol Daleithiau, mae’n rhaid llenwi ffurflen ESTA ac mae’n debyg fod Cefin Roberts, arweinydd y côr, wedi ei llenwi yn anghywir. Mae golwg360 yn deall fod un o’r rhifau ar ei ffurflen yn anghywir, a bod y cwmni hedfan wedi gwrthod caniatau iddo deithio.
Y gobaith yw y bydd Cefin Roberts yn cael hedfan heno neu bore fory, ond o faes awyr Heathrow y tro hwn. Mae wedi dal trên i Lundain, yn y cyfamser.
Mae Côr Glanaethwy yn teithio i Efrog Newydd er mwyn perfformio ‘Cantata Memoria’ Karl Jenkins yn Neuadd Carnegie nos Sul (Ionawr 15).