Mae tri dyn arall wedi cael eu harestio ar amehuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn yn Hen Golwyn, Conwy.

Mae dynes 38 oed eisoes wedi cael ei harestio, ond dywed Heddlu Gogledd Cymru ei bod bellach wedi ei rhyddhau ar fechniaeth.

Cafodd corff David James Kingsbury, 35, ei ddarganfod yn ardal Bryn Heulog yn y dref am tua 8.30yh nos Iau ddiwethaf. Fe ddatgelodd archwiliad post-mortem ei fod wedi cael ei drywanu unwaith.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones: “Mae hwn yn ymchwiliad sydd yn symud yn ei flaen yn gyflym ac wedi datblygu’n sylweddol dros y 24 awr ddiwethaf.

“Mae dau ddyn 30 oed ac un dyn 50 oed, i gyd yn lleol i’r ardal, wedi eu harestio o ganlyniad. Mae’r tri wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac maen nhw’n cael eu holi ar hyn o bryd.”