David Skeen (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae corff wedi cael ei ddarganfod wrth i dimau achub chwilio am David Skeen, 51 oed o Dalgarth ym Mhowys.

Dydy e ddim wedi cael ei weld ers iddo adael ei gartref am 9 o’r gloch fore dydd Mawrth i fynd allan i redeg.

Roedd e wedi symud i’r ardal o Fryste’n ddiweddar.

Fe fu timau achub mynydd, y gwasanaeth tân a’r heddlu’n chwilio amdano.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Yn dilyn y newyddion, talodd y Cynghorydd Sir, William Powell deyrnged i’r gwasanaethau achub.

“Mae arnon ni ddyled arbennig i wirfoddolwyr achub mynydd, ac i drigolion lleol eraill a ddaeth ymlaen i helpu ac i rannu eu gwybodaeth leol.

“Roedd hyn yn bwysig wrth ddod â’r chwilio i ben.

“Yn ystod y chwilio, mae aelodau o gymuned leol Talgarth wedi bod yn feddylgar yn eu hymateb a dw i’n sicr y bydd preifatrwydd a theimladau’r teulu’n flaenllaw yn ein meddyliau dros y dyddiau i ddod.”