Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy - yr esgob benywaidd cyntaf yng Nghymru
Mae gwasanaethau arbennig yn cael eu cynnal dros y penwythnos i nodi 20 mlynedd ers i ferched gael eu hordeinio’n offeiriaid am y tro cyntaf yng Nghymru.

Cafodd 61 o ferched eu hordeinio ar Ionawr 11, 1997 yn dilyn ymgyrch a barodd dros ganrif.

Bydd gwasanaethau’n cael eu cynnal mewn chwech eglwys gadeiriol lle mae merched yn gwasanaethu yn Aberhonddu, Bangor, Casnewydd, Llandâf, Llanelwy a Thyddewi.

Bydd Joanna Penberthy yn cael ei derbyn yn Esgob Tyddewi yn ffurfiol ar Ionawr 21, a hynny dair blynedd ar ôl i’r Eglwys yng Nghymru dderbyn y syniad yn ffurfiol ym mis Medi 2013.