Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn o Lanfairfechan, Sir Conwy, wedi ei garcharu am 16 mlynedd heddiw am gam-drin plentyn ifanc yn rhywiol.

Hefyd fe gafodd Peris Griffiths, 45, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon am droseddau rhywiol ar y We.

Yn ôl yr heddlu, roedd wedi cam-drin plentyn ifanc “yn ffiaidd” dros nifer o flynyddoedd ac wedi defnyddio’r We i gysylltu â phobol eraill debyg iddo, gan rannu lluniau a thactegau cam-drin.

“Roedd Peris Griffiths wedi credu ar gam nad oedd yn gallu cael ei ddarganfod,” meddai Chelsea Symonds-Roberts o Dîm Ymchwilio Pedoffilyddion Ar-lein Heddlu Gogledd Cymru.

Apêl i bedoffeiliaid

Wrth groesawu’r ddedfryd, apeliodd y Prif Arolygydd Ditectif Siôn Williams ar i bobol sy’n gwneud troseddau o’r fath i “chwilio am help”.

“Mae cam-drin plant yn rhywiol yn niweidiol iawn ac mae ganddo effaith ddinistriol ar blant. Mae ganddo oblygiadau pellgyrhaeddol ar deuluoedd sydd wedi’u heffeithio.

“Dyma pam ein bod yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol ar y maes hwn o’n busnes ac mae’n atgyfnerthu ein hymroddiad i daclo cam-drin plant yn rhywiol – ar-lein ac oddi ar-lein.

“Mae fy neges i’r sawl sydd yn ymwneud ag unrhyw fath o gam-drin rhywiol ar blant yn glir – mae angen i chi stopio ac mae angen i chi chwilio am help, neu bydd ffyrdd anochel o weithredu yn eich erbyn pan fydd gennych amser i feddwl am eich ymddygiad os byddwch yn cael dedfryd debyg i’r un heddiw.

Ychwanegodd fod help ar gael drwy Sefydliad Lucy Faithfull ar ei wefan, Stop It Now ac ar y llinell ffôn cyfrinachol, 0808 1000 900.