Mae pentref solar cynta’ Cymru ar fin cael ei agor yn swyddogol yng Ngogledd Sir Benfro.
Bydd y clwstwr o chwech o gartrefi yn Glanrhyd gyda chostau rhedeg isel, yn defnyddio ynni yn effeithiol, yn rhannu car trydan a gyda band eang cyflym iawn.
Un o amcanion y fenter yw darparu tai fforddiadwy a’r gobaith yw mai pobol sydd ar restr aros tai cymdeithasol Cyngor Sir Benfro fydd y tenantiaid newydd.
Yn ôl yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths sydd yn agor y pentref yn swyddogol, bydd y datblygiad “nid yn unig yn darparu’r tai y mae angen mawr amdanynt i bobl leol, ond hefyd yn mynd i’r afael â nifer o faterion pwysig eraill.”
Cafodd ‘tŷ solar’ ei agor yn swyddogol yn 2013 a derbyniodd Western Solar Ltd grant o £141,000 gan Lywodraeth Cymru i sefydlu ffatri yn lleol i adeiladu’r tai ar y safle a chreu deg o swyddi.
Mae’r prosiect hefyd wedi cynnig cyfleoedd am waith yn lleol a phrentisiaethau.