Syniad artist o sut rai fyddai adeiladau'r dref (Llun: Stuart Wilson)
Mae dyn o Sir Fynwy yn honni ei fod wedi canfod olion y dref ‘fwyaf’ yng Nghymru yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Hyd yn hyn, mae Stuart Wilson a chriw o wirfoddolwyr wedi dod o hyd i olion maenordy, dwy neuadd a chwrt ar safle rhwng Trellech a Threfynwy yn Sir Fynwy.

Esboniodd fod amheuaeth wedi bod ynglŷn ag union leoliad y safle, ond ei fod yn hyderus fod y safle maen nhw wedi’i ganfod yn deillio’n ôl i’r canol oesoedd.

Mae wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn archwilio’r safle wedi iddo brynu’r darn o dir 4.6 erw am £32,000 dros ddegawd yn ôl.

“Rydyn ni’n credu y byddai tua 10,000 o bobol wedi byw yma, felly dyma fyddai’r dref fwyaf yng Nghymru ar y pryd,” meddai wrth golwg360.

Olion canoloesol

Mae Stuart Wilson yn byw yng Nghas-gwent erbyn hyn, ond cafodd ei fagu yn ardal Trefynwy.

“Cefais i fy magu yn yr ardal, ond dechreuodd fy niddordeb yn yr hanes ar ôl imi ddod yn ôl o’r brifysgol,” meddai.

“Mi ofynnodd ffarmwr lleol imi archwilio safle i weld a oedd olion adeiladau canoloesol ar ei dir, ac ers hynny rydyn ni wedi dod o hyd i lawer, ac mae hefyd olion ym mhentref Trellech ei hun,” meddai wedyn.