Mae Heddlu Gwent yn chwilio am dystion i ddigwyddiad yng Nghasnewydd ar Nos Calan sydd wedi gadael dyn 19 oed ag anafiadau difrifol iawn.

Fe gafodd plismyn eu galw i ddigwyddiad ar Rodfa Edward VII yn y ddinas tua 10.10yh nos Sadwrn.

Pan gyrhaeddon nhw’r fan a’r lle, roedd dyn 19 oed wedi’i anafu, ac fe gafodd ei gludo ar unwaith i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae Heddlu Gwent yn galw ar i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.