Mae heddlu Twrci yn chwilio am ddyn arfog a daniodd at dorg mewn clwb nos yn Istanbul neithiwr gan ladd o leia’ 39 o bobol a lladd 70 o bobol eraill.

Mae’r awdurdodau yn dweud mai ymosodiad brawychol oedd o, lle’r oedd yr ymosodwr wedi’i wisgo fel Sion Corn. Fe laddodd blismon y tu allan i glwb Reina tua 1.15yb, cyn mynd i mewn a dechrau saethu at bobol oedd yn partïo y tu mewn.

Mae sianel deledu breifat NTV yn adrodd fod yr ymosodwr wedi gweithredu ar ei ben ei hun, gan adael y clwb yn gwisgo dillad gwahanol i’r siwt Sion Corn.

Roedd beth bynnag 15 o’r rheiny a laddwyd yn dod o dramor, ac roedd pump yn dod o Dwrci. Maen nhw’n dal i drïo adnabod y gweddill.

Mae o leia’ 69 o bobol yn derbyn triniaeth mewn pedwar o ysbytai gwahanol yn y ddinas.

Ar adeg yr ymosodiad roedd yna tua 600 o bobol y tu mewn i’r clwb.