Mae cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant annibyniaeth i’r Ffindir wedi dechrau gyda chyngerdd operatig arbennig, ac fe fydd tân gwyllt i ddathlu’r Flwyddyn Newydd yn y brifddinas Helsinki heno.

Daeth y Ffindir yn annibynnol oddi wrth Rwsia ar Ragfyr 6, 1917.

Drwy gydol 2017, fe fydd cannoedd o ddigwyddiadau ym mhob cwr o’r wlad.

Bydd y digwyddiadau’n cynnwys dangos ffilmiau gwladgarol, partïon a digwyddiadau amgylcheddol.