Mae achos o’r ffliw adar, H5N8, wedi’i ganfod mewn hwyaden yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi ffeindio hwyaden wyllt yn Llanelli sydd â’r ffliw. Cafwyd yr aderyn yn farw fore heddiw.

Dyma’r un straen o’r clefyd a gafwyd ar fferm dyrcwn yn Lincolnshire ar Ragfyr 16 ac sydd wedi ei ddarganfod yn adar domestig, gwyllt a chaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol a gogledd Affrica.

Cymerwyd camau pellach yr wythnos yma, i amddiffyn dofednod ac adar caeth trwy gyhoeddi gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod.

Pwysig cadw at fesurau diogelwch

“Mae’n bwysig iawn hefyd bod ceidwaid adar yn cadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib. Hyd yn oed os yw’r adar dan do,” meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop.

“Mae’r perygl o gael eu heintio’n un byw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posibl i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori perchnogion dofednod sydd yn poeni am iechyd eu hadar i gysylltu ar unwaith â swyddfa leol Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Mae aelodau’r cyhoedd hefyd wedi cael eu cynghori i ffonio llinell gymorth APHA 03459 335577 os gwelan nhw unrhyw adar dŵr gwyllt marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt eraill o rywogaethau eraill yn farw yn yr un lle.