Mae cynghorwyr Cyngor Môn yn cynnal trafodaethau heddiw ynglyn a chynnal ymgynghoriad swyddogol am adrefnu ysgolion yn y sir.

Bydd y trafodaethau rhwng cynghorwyr ac aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu os fydd ymgynghoriad swyddogol â rhieni, llywodraethwyr a staff chwe ysgol yn ardal Llangefni yn medru bwrw ymlaen.

Mae dau opsiwn ynglŷn â sut i adrefnu ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a’r Graig eisoes wedi eu hamlinellu ac mae ymgynghoriadau anffurfiol wedi cael eu cynnal gyda’r chwe ysgol, cynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru.

‘Rhaglen moderneiddio uchelgeisiol’

Mae’r opsiynau hyd yn hyn yn cynnwys adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd, ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, ac adnewyddu Ysgol Henblas.

Mae’r ddau opsiwn yn awgrymu cau Ysgol Talwrn ac mae Ysgol Esceifiog yn wynebu naill a’i adnewyddiad o’r adeilad presennol neu adleoliad i adeilad newydd.

Mewn datganiad, mae Cyngor Môn wedi dweud: “mae’r Cyngor Sir yn cynnal rhaglen moderneiddio uchelgeisiol ar gyfer ysgolion, ar ôl sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd gwireddu’r rhaglen yma’n golygu ailfodelu adeiladau ysgol bresennol; adeiladu ysgolion ardal newydd a chau ysgolion nad ydynt bellach yn addas.”