Zoe Morgan a Lee Simmons
Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio’r cariadon fu farw tu allan i siop Matalan yng Nghaerdydd ym mis Medi eleni.

Wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd, fe blediodd Andrew Saunders, 20 oed, yn euog o ladd Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmons, 33 oed.

Cafwyd hyd i’r ddau yn farw yn agos at siop Matalan ar Stryd y Frenhines yng nghanol y ddinas ar Fedi 28.

Fe ymddangosodd Andrew Saunders heddiw i gadarnhau ei enw cyn pledio’n euog i’r ddau gyhuddiad.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn y flwyddyn newydd.