Llun: Gwefan Swyddfa'r Post
Fe fydd miloedd o weithwyr yn dechrau cyfres o streiciau yn y cyfnod hyd at y Nadolig a fydd yn effeithio’r rheilffyrdd, post a meysydd awyr.
Mae cyfres o anghydfodau wedi bod ynglŷn â swyddi, cyflogau, pensiynau a diogelwch yn ymwneud a rhai o undebau llafur mwya’r Deyrnas Unedig.
Fe fydd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn cynnal streic am bum diwrnod, gan gynnwys Noswyl Nadolig, mewn protest yn erbyn diswyddiadau, cynllun pensiwn a chau swyddfeydd post.
Mae disgwyl i’r undeb gynnal protest tu allan i bencadlys yr Adran Fusnes ddydd Llun ar ddechrau’r streiciau. Yng Nghymru fe fydd streiciau mewn 15 o Swyddfeydd Post. Nid yw’r streic y CWU yn gysylltiedig â gweithwyr y Post Brenhinol ac mae cynlluniau mewn lle er mwyn sicrhau na fydd llawer o effaith ar y gwasanaethau maen nhw’n ei ddarparu.
Yn y cyfamser mae disgwyl i staff British Airways sy’n rhan o undeb Unite gynnal streic ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan mewn ffrae ynglŷn â chyflogau. Mae maes awyr Caerdydd wedi dweud na fydd yn cael effaith yno gan mai ychydig iawn o weithwyr sy’n aelodau o’r undeb, ond mae disgwyl oedi mewn meysydd eraill yn y Deyrnas Unedig.
Mae gyrwyr cwmni Argos hefyd yn bwriadu cynnal streic 72 awr a fydd yn dechrau ar 20 Rhagfyr. Roedd aelodau’r undeb wedi pleidleisio’n unfrydol dros gynnal streic gan ddweud bod Argos wedi methu talu tal am wyliau dros gyfnod o ddwy flynedd, sy’n gyfwerth a £700 am bob gweithiwr ar gyfartaledd. Mae disgwyl i’r gyrwyr ddychwelyd i’r gwaith ar Noswyl Nadolig.
Ar y trenau mae disgwyl i aelodau Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) gyda Southern Railway gynnal streic heddiw a dydd Mawrth mewn ffrae ynglŷn â rôl archwilwyr tocynnau. Nid oes disgwyl i’r streic effeithio teithwyr yng Nghymru oni bai eu bod yn teithio i Lundain neu dde ddwyrain Lloegr.