Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i wrthdrawiad ar ôl i ddyn 25 oed gael ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i Heol Orllewinol y Bontfaen yn ardal Elái yng Nghaerdydd toc wedi canol nos neithiwr.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru Volkswagen Golf arian ei gludo i’r ysbyty, lle mae e mewn cyflwr difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.