Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi galw ar bobol sydd mewn peryg o ddal y ffliw i gael brechiad.
Yn ôl ffigurau diweddar nad yw chwech o bob 10 person dan 65 oed sy’n perthyn i un o’r grwpiau risg, wedi cael eu brechiad hyd yn hyn (61% yn Sir Gaerfyrddin, 65% yng Ngheredigion a 61% yn Sir Benfro).
Er bod lefelau isel o ffliw yn cylchredeg yn bresennol, y disgwyl yw y bydd cynnydd dros y Dolig wrth i grwpiau o bobl gwrdd â chymdeithasu dros yr ŵyl.
Mae’r grŵp ‘dan risg’ yn cynnwys dioddefwyr diabetes, clefyd y galon a’r arennau, a’r rheiny sy’n ddifrifol ordew.
Ffliw yn lladd pob blwyddyn
“I’r rhan fwyaf o bobl iach, mae ffliw fel arfer yn salwch diflas, sydd gan amlaf yn golygu ychydig ddyddiau gartref yn y gwely,” meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Fodd bynnag, i bobl hŷn, menywod beichiog, a’r rheiny mewn grwpiau ‘risg’ eraill fel rhai sydd ag afiechyd yr afu, neu â chyflyrau ar y galon neu’r frest mae ffliw yn llawer mwy tebygol o arwain at gymhlethdodau difrifol, a gall beryglu bywydau hyd yn oed. Mae ffliw yn lladd pobl bob blwyddyn!”