Llun gwneud o'r rosaf newydd (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae adroddiadau answyddogol yn dweud bod dau fanc cyhoeddus yn Japan yn bwriadu creu pecyn ariannol o bron £7 biliwn i gefnogi codi ail atomfa yn Wylfa, Ynys Môn.

Mae’r wybodaeth wedi dod trwy asiantaeth newyddion Reuters sy’n honni bod swyddog yn Llywodraeth Japan wedi cadarnhau’r trefniadau.

Fe fyddai hynny’n gam pwysig yn y broses o ddatblygu’r orsaf niwclear – fwy nag unwaith mae gwrthwynebwyr y datblygiad wedi awgrymu na fyddai’r arian ar gael i fwrw ymlaen.

Yn ôl yr wybodaeth a gafodd Reuters fe fydd banc cyhoeddus Banc Japan tros Gydweithio Rhyngwladol a Banc Datblygu Japan, sy’n eiddo i’r Llywodraeth, yn creu pecyn gwerth £6.79 biliwn i gefnogi cynllun cwmniau Hitachi a Horizon.

Mae ymgynghori’n digwydd ar hyn o bryd i fwriad i godi rhes o beilonau ar draws Ynys Môn i gario trydan o’r atomfa newydd ac mae disgwyl i Ganghellor Prydain, Philip Hammond, gwrdd â Gweinidog Economi Japan yr wythnos nesa’.