Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi i ddatblygiad tai dadleuol yn Llangollen, er gwaetha’ cryn wrthwynebiad yn lleol.
Roedd gwrthwynebwyr yn dadlau nad oes galw am y tai, y byddai’n rhoi tipyn o bwysau ar ysgolion lleol ac y byddai’r datblygiad yn niweidio’r amgylchfyd lleol.
Roedd yr Aelod Cynulliad Ken Skates a Chyngor Tref Llangollen ymhlith y rhai fu’n gwrthwynebu’r datblygiad gan Grŵp Castlemead ar gyfer 95 o dai.
Roedd caniatâd eisoes wedi’i roi ar gyfer 50 o dai fel rhan o gynllun datblygu lleol.
Mae Grŵp Castlemead wedi cytuno i gyfrannu dros £200,000 i ymestyn ysgolion lleol a darparu tai fforddiadwy mewn ardaloedd eraill.
Mae’r caniatâd cynllunio’n ddibynnol ar y cytundeb hwnnw.