Mae incwm cyfartalog busnesau fferm wedi cwympo am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Yn ôl arolwg busnesau fferm Cymru, mae’r incwm cyfartalog wedi disgyn £6,800 (23%) i £22,200 rhwng 2015 a 2016.
Cwymp ym mhrisiau cynnyrch cig oen a llaeth sydd bennaf gyfrifol am y lleihad.
Pwysigrwydd taliadau
Mae Llywydd NFU Cymru, Stephen James, wedi pwysleisio pwysigrwydd taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol er mwyn digolledu ffermwyr am golledion.
“Rwy’n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am dalu 90% o daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar amser mis Rhagfyr,” meddai, “ond mae’n rhaid sicrhau bod y taliadau sydd ar ôl yn cael ei gosod heb oedi.”
Mae’r NFU hefyd wedi galw am yr angen am bolisïau ôl-Brexit ffafriol ac i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol rheoliadau pellach ar y diwydiant.