Mae bachgen yn ei arddegau o Lanelli wedi cyfaddef ei fod wedi hacio gwefan ffôn TalkTalk gan achosi gwerth miliynau o bunnau o anhrefn.
Mae Daniel Kelley, 19, wedi pledio’n euog yn llys yr Old Bailey i ddeg cyhuddiad sy’n cynnwys hacio, blacmelio a thwyll.
Cyfaddefodd ei fod wedi hacio mewn i wefan TalkTalk er mwyn medru dwyn gwybodaeth cwsmeriaid a blacmelio’r cwmni i dalu £285,000 iddo.
Clywodd y llys ei fod yn meddu ar 5,000 set o ddata cardiau credyd gyda’r bwriad o werthu’r manylion preifat ar y we.
Hacio Coleg Sir Gâr
Wynebodd dau gyhuddiad o hacio gan gynnwys un cyhuddiad o hacio mewn i wefan Coleg Sir Gâr lle’r oedd yn fyfyriwr ac mi wnaeth hyn arwain at ddoctoriaid yn gorfod aros yn hirach am ganlyniadau.
Wrth ohirio am gyhoeddiadau dywedodd y Barnwr Paul Worsley: “Rwy’n eich rhybuddio chi, o ystyried y troseddau yma yr ydych wedi pledio’n euog iddyn nhw, bod mynd i’r carchar yn anochel, ac fe ddylech baratoi eich hun ar gyfer hynny.”