Mae siawns y gallai rhannau o Gymru gael Nadolig gwyn eleni, yn ôl arbenigwr sydd wedi astudio patrwm y jetlif dros y blynyddoedd diwethaf.
Esboniodd yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor fod y jetlif wedi llifo ar ffurf llinell syth dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at aeafau tyner, stormydd a llifogydd.
“Fodd bynnag, y gaeaf hwn, mae’r jetlif yn edrych yn dra gwahanol, ac yn dilyn llwybr troellog.”
Esboniodd fod hynny wedi arwain at dywydd cyfnewidiol gyda’r tymheredd yn syrthio ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr ac yna’n codi dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd fod hyn yn debyg i batrwm gaeafau caled 2010 a 2011, gan ddweud y gallai’r jetlif ddisgyn eto gan ddod ag eira dros y Nadolig.
Eira i’r gogledd?
Yn ôl Tom Rippeth, fe allai gogledd Cymru weld eira o ganlyniad i’r gwyntoedd sy’n ymchwyddo wrth chwythu dros Fynyddoedd y Cambria ac Eryri.
“Ar y llaw arall gall y gwyntoedd oer o’r Arctig sy’n chwythu o’r gogledd a’r dwyrain godi gwlybaniaeth fel y maent yn chwythu dros Fôr Iwerddon, ac yna syrthio fel eira dros ogledd Cymru,” meddai.
Daeth i’r casgliad, “mae’r tebygolrwydd o gael Nadolig gwyn eleni yn uwch nag efallai y byddech yn tybio, o ystyried y tymheredd cynnes yr ydym wedi eu profi’n ddiweddar.”