Y difrod wedi'r tan Y difrod wedi'r tan a achoswyd gan oleuadau Nadolig Llun: Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae’r Gwasanaeth Tân yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o beryglon goleuadau Nadolig yn sgil tân yn Aberdaugleddau dros y penwythnos.
Cafodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ei alw i ddiffodd tân a achoswyd gan oleuadau Nadolig yn Stryd Charles, Aberdaugleddau bore ddydd Sul.
Mae goleuadau Nadolig yn cael eu defnyddio’n llai aml na goleuadau arferol felly mae angen eu trin â mwy o ofal, meddai’r Gwasanaeth Tân.
Dyma argymhellion y Gwasanaeth Tân ynglŷn â sut i fod yn ddiogel dros y Nadolig:
- Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr i wneud yn siŵr bod y golau addurniadol yn ddiogel
- Prynwch eich goleuadau o gyflenwr gallwch ei ymddiried
- Defnyddiwch lidiau allanol ar gyfer goleuadau allanol yn unig
- Newidiwch fylbiau sydd wedi torri
- Peidiwch a gadael eich goleuadau addurniadol ymlaen dros nos
- Peidiwch bweru gormod o bethau o un soced
- Peidiwch roi eich addurniadau yn agos i oleuadau neu wresogyddion
- Peidiwch adael i fylbiau goleuadau Nadolig gyffwrdd unrhyw beth all losgi’n hawdd