Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae panel sy’n cynnwys Aelodau Seneddol o wahanol bleidiau wedi awgrymu y dylai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd gael statws preswyliad parhaol ar ôl Brexit.

Yn ôl y panel, mae’r ddadl i beidio â rhoi statws parhaol i’r tair miliwn o ddinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yng ngwledydd Prydain, oni bai fod Prydeinwyr yng ngwledydd Ewrop yn cael yr un statws, yn “foesol anghywir.”

Maen nhw wedi galw ar Theresa May i gymryd y “cam cyntaf” gan gynnig preswyliad parhaol i ddinasyddion Ewrop fel y bydd ganddynt yr un hawliau iechyd, cymdeithasol ac addysg â dinasyddion Prydain.

Dim ond 3% o ddinasyddion Ewropeaidd sy’n byw ym Mhrydain sydd heb waith, gyda 51% yn cael eu nodi fel gweithwyr, 9% yn hunangyflogedig, 4% yn fyfyrwyr, 7% wedi ymddeol ac 17% yn blant.

Statws dinasyddion Prydain – yn yr UE

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Mae’r Prif Weinidog a gweinidogion eraill wedi bod yn gwbl glir eu bod eisiau amddiffyn statws dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn byw yma, a’r unig amgylchiadau na fyddai’n gwneud hynny’n bosib yw os na fyddai hawliau dinasyddion Prydain mewn gwledydd Ewropeaidd yn cael eu diogelu.”

Mae tua 1.2 miliwn o ddinasyddion Prydain yn byw yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog na fydd Brexit yn rhan o’r drafodaeth mewn cynhadledd Ewropeaidd ym Mrwsel ddydd Iau, ond bod arweinwyr y 27 gwlad arall yn bwriadu’i drafod wedi hynny, pan na fydd Theresa May yn bresennol.