Tosin Femi Olasemo Llun: Heddlu De Cymru
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i ad-dalu £250,000 ar ôl twyllo dwy ddynes drwy wefannau asiantaethau dod o hyd i gariad.
Fe wnaeth Tosin Femi Olasemo, 38 oed, honni ei fod yn filwr o America fu’n gwasanaethu yn Afghanistan gan ddefnyddio llun o filwr ar wefan match.com i erfyn am arian ‘er mwyn gadael y fyddin’.
Fe blediodd yn euog i dwyll a chael dedfryd o bedair blynedd a hanner dan glo yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf 2015.
Ad-dalu
Yr wythnos diwethaf, cafodd gwrandawiad atafael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd gan ddod i’r casgliad ei fod wedi elwa £253,347 o’i droseddau.
Daeth i’r amlwg fod ganddo gysylltiadau â chyfrifon banc yn Nigeria a’i fod wedi prynu tir yno, ac roedd ganddo fwy na £1,100 yn ei feddiant pan gafodd ei arestio.
Gorchmynnodd y llys iddo ad-dalu £200,707 i’w ddau ddioddefwr sy’n byw yn Nenmarc.
Mae wedi cael tri mis i drefnu gwerthiant y tir yn Nigeria, ac os na fydd yn llwyddo i gydymffurfio â’r gorchmynion bydd rhaid iddo dreulio dwy flynedd a hanner arall yn y carchar.
Ar ddiwedd ei ddedfryd bydd yn cael ei alltudio o’r Deyrnas Unedig.
‘Effaith distrywiol’
“Mae’r achos hwn wedi arddangos y peryglon o ddarparu manylion personol ac anfon arian i ddieithriaid dros y we,” meddai’r Ditectif Arolygydd o Uned Troseddau Ariannol De Cymru, Paul Giess.
“Mae’r rhai sy’n twyllo yn defnyddio amrywiaeth o dactegau i dwyllo eu dioddefwyr, fel esgus bod mewn angen neu angen sylw meddygol brys neu gael eu rhyddhau o’r lluoedd arfog i fyd o dlodi.”
“Cafodd gweithredoedd Olasemo effaith distrywiol ar ei ddioddefwyr ac rydyn ni’n gobeithio y bydd mynd ar drywydd ei asedau o dan Ddeddf Elw Troseddau yn rhoi cysur iddyn nhw,” meddai.