Mae Heddlu Dyfed Powys Police yn apelio am dystion wedi damwain ddifrifol ar yr A40 ger Llanspyddid ym Mhowys.
Bu gwrthdrawiad rhwng y ddau gar – Mini du a Rover gwyrdd – am 7.35am heddiw. Mae traffig bellach yn llifo eto ar gylchdro Tarrell a Phont Senni.
Bu farw dynes 58 oed yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae dynes 21 oed yn cael ei thrin yn yr ysbyty.
Mae’r Heddlu yn chwilio am fan wen a oedd yn teithio o Aberhonddu i gyfeiriad Pont Senni tua’r un amser â’r gwrthdrawiad.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i’r cyhoedd alw’r rhif 101 os oes ganddyn nhw wybodaeth am y digwyddiad.