Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae’r adroddiad blynyddol sy’n asesu gwerthfawrogiad pobol o wasanaethau heddluoedd gwledydd Prydain, yn “wallus” ac yn “wastraff amser”, meddai Comisiynydd Heddu a Throsedd Gogledd Cymru.

Mae Arolygaeth Cwnstabliaid Ei Mawrhydi (HMIC) a’r Arolygydd Wendy Williams, wedi’u beirniadu’n llym gan Arfon Jones am ei fod yn gwrthod cydnabod ymdrech Heddlu Gogledd Cymru wrth geisio codi safonau, meddai.

Mae Arfon Jones yn mynd yn bellach hefyd, trwy ddweud fod arolygon fel hyn yn rhwystro gwaith y llu, yn hytrach na’i hybu.

“Dw i ddim yn credu fod y dyfarniad sy’n dweud bod angen gwella yn adlewyrchu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud  led-led y gogledd  o ddydd i ddydd i ddiogelu ein cymunedau…

“Heddlu’r Gogledd North yw’r heddlu sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn nhermau boddhad y dioddefwr, a dw i ddim yn credu fod penawdau’r adroddiad yn cefnogi ei ganfyddiadau a’i gynnwys.

“Mae’r llu yn gorfod buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn ymateb i’r arolygaeth. Ond mae’r ddeddfwriaeth yn glir. Mae’r Prif Gwnstabl yn atebol i mi, ac fe ddylai HMIC adael iddo barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu.

“Dw i’n cydnabod fod hi’n bwysig i gael system werthuso gref, ond ni ddylai fod ar draul gwasanaethau allweddol rheng flaen.”