Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price wedi croesawu’r “sicrwydd i weithwyr dur a’u teuluoedd”.

Ond ychwanegodd fod rhaid gwybod y manylion yn llawn cyn gallu barnu ymhellach.

“Gadewch i ni fod yn glir – mae hwn yn gytundeb anferth sy’n effeithio cryn dipyn o bobol a thra ein bod ni’n croesawu’r hyn sydd ar gael ar y cyfan, fyddwn ni ddim yn barnu tan ein bod ni’n gwybod y manylion a – yn hanfodol – sut y bydd yn effeithio gweithwyr dur yn y dyfodol, a’r hyn mae’n ei olygu o ran eu llewyrch ac i’r ardaloedd lle mae’r ffatrïoedd Cymreig.”

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru am drafodaeth bellach, gan gynnwys y cynllun pensiwn newydd.

“Byddwn ni hefyd yn ceisio rhagor o eglurhad ynghylch y buddsoddiad gwerth £1 biliwn,” meddai Adam Price. “Pa un a oes amodau, ac a yw’n ddigon, o ystyried oedran safle Port Talbot, dydyn ni ddim yn gwybod eto.

“Gobeithio mai dyma’r newyddion yr oedd gweithwyr dur am ei gael cyn y Nadolig.”