Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei feirniadu mewn adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am fod yn esgeulus gyda chynilion plentyn mewn gofal.

Dyma’r achos cyntaf o’i fath i ddatgelu bod cynilion rhywun mewn gofal wedi cael eu monitro yn “anghyson ac annigonol”.

Casgliad yr adroddiad gan yr Ombwdsmon Nick Bennett oedd bod y cyngor wedi methu â chadw cofnodion digonol na chadw llyfr cynilion o arian Rob Johnson, sydd bellach yn 18, a bod methiannau gweinyddol gan y cyngor yn gyfystyr â chamweinyddu.

Derbyniodd Rob Johnson, sydd wedi bod mewn gofal ers yn ddwy oed, £270 gan y cyngor ar ddiwedd ei leoliad maeth ond mae’r adroddiad yn argymell y dylai fod wedi derbyn £3,310.

Dywedodd y cyngor ei fod yn derbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion ond nad yw’n cytuno â thalu’r swm llawn yn ôl i Rob Johnson am nad ydyn nhw yn credu ei fod wedi “dioddef unrhyw anghyfiawnder neu galedi.”

Cefndir

 

Cafodd Rob Johnson ei leoli gyda rheini maeth pan oedd yn ifanc iawn ond fe wnaeth y berthynas ddirywio gan ddod i ben yn 2014.

Bryd hynny gofynnodd Rob Johnson, sy’n cael ei adnabod fel Mr N yn yr adroddiad, i’r cyngor am ei gynilion wedi i’w rieni maeth arbed arian ar ei ran ar hyd y blynyddoedd.

Ar ôl derbyn swm is na’r disgwyl, fe gwynodd i’r Ombwdsmon bod rhai o’i gynilion wedi cael eu defnyddio, heb drafod y mater gyda fo, i dalu am dripiau y dylai fod wedi derbyn lwfans arbennig ar eu cyfer.

Tystiolaeth

 

Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon: “Mae achos Mr N yn codi materion pwysig yng nghyswllt plant sy’n derbyn gofal (LAC) a’u cynilion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bwriadaf felly rannu fy adroddiad gyda Llywodraeth Cymru.

“Roedd fy ymchwiliad yn ymwneud â’r hyn a wnaeth y Cyngor, nid y rhieni maeth. Derbyniais dystiolaeth fod y Cyngor wedi bod yn anghyson ac afreolaidd yn y ffordd a gymhwysodd ei ganllawiau mewnol ar gyfer rhieni maeth yn ei Lawlyfr Maethu. Roedd yn gorfodi rhai o’i ganllawiau ond nid canllawiau eraill, fel cynilo ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

“Ni allai’r Cyngor ddarparu tystiolaeth i ddangos fod Rob Johnson wedi cael gwybod nac ychwaith wedi cytuno i ddefnyddio ei gynilion i dalu am ddau drip a gostiodd £1,100 i gyd”.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael yma.