Llun: PA
Fe fydd canlyniadau diweddara’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) o ran sgiliau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg, yn cael eu cyhoeddi bore dydd Mawrth.
Mae PISA yn arolwg sy’n cael ei chynnal bob tair blynedd gan yr OECD, sef Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Mae 72 o wledydd y byd yn rhan o’r arolwg hwn sy’n arsylwi ar feysydd fel darllen, gwyddoniaeth a mathemateg ar gyfer disgyblion 15 oed sy’n tynnu at derfyn addysg ffurfiol.
Y tro diwethaf, roedd perfformiad Cymru yn siomedig o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill, a hynny am y trydydd tro yn olynol.
Cefndir
Cwblhaodd tua 540 000 o fyfyrwyr asesiadau PISA yn 2015, gan gynrychioli 29 miliwn o fyfyrwyr 15 oed mewn ysgolion ar draws y 72 o wledydd.
Dyma’r bedwaredd set o ddata ar gyfer Cymru, wrth i Gymru gymryd rhan yn yr arolwg am y tro cyntaf yn 2006.
Ers hynny, mae’r ffigurau wedi dangos bod Cymru ar eu hôl hi o gymharu â gwledydd eraill ac mae disgwyl i Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, wneud datganiad am y canlyniadau diweddaraf yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw.
Fe fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi am 10 y bore ma.