David Lloyd George (Llun: PA)
Mae’n debyg na fyddai David Lloyd George yn goroesi fel gwleidydd heddiw, yn ôl yr Aelod Seneddol sydd bellach yn cynrychioli man ei eni yn Nwyfor-Meirionnydd.

Mae Liz Saville Roberts yn dweud wrth golwg360 bod y modd “tabloid” o ystyried cyfraniad gwleidyddion, ynghyd â’r cam y mae’r ‘Dewin Cymreig’ wedi ei gael gan haneswyr ar hyd y ganrif ers ei ddyrchafu’n Brif Weinidog Prydain ar Ragfyr 6, 1916, yn dangos y newid sydd wedi body n y ffordd o fesur cyfrniad gwleidyddion.

“Ers talwm, oni bai bod rhywbeth yn cael ei adrodd yn y llys ysgariad, doedd o ddim yn sgandal, fyddai’r papur ddim yn delio efo fo,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ond, mae’n debyg y byddai ei yfed, ei iselder… wedi ei gwneud hi’n anodd iawn iddo oroesi fel gwleidydd yn ein dyddie ni.”

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn dweud fod “uchelgais” y Cymro Cymraeg a anwyd ym Manceinion ond a fagwyd ym mhentre’ Llanystumdwy yn Eifionydd, wedi codi gwrychyn y ‘sefydliad’ yn ei ddydd. Ac mae meddwl iddo gyrraedd 10, Stryd Downing heb gael addysg brifysgol a heb unrhyw gysylltiadau bonedd, yn gwneud y gamp yn un fwy.

“Yn hyn o beth, mi fydda’ i yn cymharu Lloyd George gyda Churchill,” meddai’r Aelod Seneddol Plaid Cymru.

“Mae un (Churchil) yn cael ei weld fel achubwr y genedl Brydeinig, tra bod y llall (Lloyd George) wedi gwneud llawer mwy sydd wedi cael effaith ar fywydau pobol go iawn – pensiwm, yswiriant gwladol…”

Gwrandewch ar sylwadau Liz Saville Roberts yn llawn yn y clip hwn: