Mae llinell gymorth arbennig a gafodd ei chreu gan elusen  yr NSPCC yn dilyn y sgandal cam-drin plant o fewn pêl droed wedi derbyn dros 800 o alwadau o fewn ei hwythnos gyntaf.

Cafodd y llinell ei lansio i gynnig cymorth i ddioddefwyr camdrin rhywiol o fewn y byd pêl droed a, hyd yn hyn, mae 60 o alwadau wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu neu wasanaethau plant.

Yn ystod y tri diwrnod cyntaf, cafodd tair gwaith yn fwy o alwadau eu cyfeirio at yr heddlu ac asiantaethau eraill na diwrnodau cyntaf sgandal Jimmy Savile.

Y cyn pêl droediwr, Andy Woodward, a dorrodd y tawelwch yn gyntaf, gan ddatgelu ei fod wedi cael ei gam-drin pan oedd yn blentyn yng Nghlwb Pêl Droed Crew Alexandra.

Ar ôl hynny, fe ddaeth rhagor o chwaraewyr proffesiynol ymlaen, gan awgrymu bod graddfa’r sgandal llawer fwy.

Hyder i siarad

“Mae nifer y chwaraewyr pêl droed o broffil uchel sydd wedi siarad am eu profiadau wedi dal sylw’r wlad i gyd,” meddai prif weithredwr NSPCC, Peter Wanless.

“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn galwadau i’n llinell gymorth bêl droed sy’n dangos hyd a lled y cam-drin oedd yn digwydd o fewn y gamp.

“Gall unrhyw un sydd am gysylltu â ni wneud hynny’n gyfrinachol, gan wybod y byddan nhw’n cael gwrandawiad a chefnogaeth.

“Yn y dyfodol, rhaid i chwaraewyr pêl droed – rhai ifanc a chyn athletwyr – gael yr hyder i siarad am gamdriniaeth rywiol a theimlo fel eu bod yn gallu gwneud.”

Mae’r NSPCC yn cynnig cyngor i rieni ar siarad â’u plant am gam-drin, a sut i ddiogelu plant mewn clybiau chwaraeon.