Fe fydd y Bencampwriaeth Futsal Brydeinig gyntaf erioed, y cael ei chynnal yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.
Canolfan dan do House of Sport yn ardal Lecwydd y brifddinas fydd cartre’r digwyddiad am gyfnod o dridiau rhwng dydd Gwener a dydd Sul.
Beth yw ‘futsal’?
Math o bêl-droed pump bob ochr dan do yw futsal, gyda’r enw’n tarddu o’r Sbaeneg a’r Bortiwgaeg am ‘bêl-droed lolfa’.
Ymhlith rhai o enwau mwya’r byd pêl-droed sydd wedi rhoi cynnig ar y gamp mae Pele, Zico, Lionel Messi a Cristiano Ronaldo.
Yn ôl Pele, roedd y gamp wedi ei helpu i ddatblygu ei sgiliau fel pêl-droediwr.
Y Bencampwriaeth
Bydd ymgyrch Cymru’n dechrau yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Wener am 7.30yh, ac fe fyddan nhw’n herio’r Alban nos Sadwrn (7.30yh) a Lloegr brynhawn dydd Sul (3.15yh).
Bydd pob gwlad yn herio’i gilydd unwaith ar ffurf cynghrair.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Gunney: “Rydym wrth ein bodd fod pob un o’r pedair gwlad wedi dod ynghyd ac wedi cytuno i’r digwyddiad pwysig iawn hwn.
“Bydd chwarae mewn twrnament bob blwyddyn yn gyfle gwych i’n timau cenedlaethol ddatblygu ond hefyd i gefnogi datblygiad y gêm yn y pedair gwlad.
“Rwy’n hyderus y bydd y Bencampwriaeth Gartref gyntaf yn ddigwyddiad gwych gyda digon o ddrama a chyffro.”
Carfan Cymru
Dafydd Jones (Baku), Lee Jones (Rhydychen), Richard Morgan (Prifysgol Caerdydd), Lloyd Jenkins (Prifysgol Caerdydd), Elliot Thomas (Prifysgol Caerdydd), Chris Hugh (Prifysgol Caerdydd), Daniel Hooper (Prifysgol Caerdydd), Simon Prangley (Prifysgol Caerdydd), Jonathan Nelson (Prifysgol Caerdydd), Tyrrell Webbe (Prifysgol Caerdydd), Rhys Williams (Prifysgol Caerdydd), Naim Arsan (Wrecsam), Chris Bright (Birmingham), Connor Rogers (Wrecsam), Adam Hesp (Wrecsam), Warren Hudson (Llandarcy), Rico Zulkarnain (Fitzroy)