Francois Fillon (llun Peter Macdiarmid/PA Wire)
Fe all dynes o Sir Fynwy fod yn briod ag arlywydd nesaf Ffrainc os yw ei gwr yn ennill y ras arlywyddol.

Mae Penelope Fillon, 61, o’r Fenni wedi bod yn briod a Francois Fillon ers 36 mlynedd ar ôl ei gyfarfod tra’n gweithio fel athrawes yn Le Mans yn y 1970au.

Cyn hynny, roedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Brenin Henry VIII yn Y Fenni ac aeth ymlaen i astudio’r gyfraith. Mae ei chyn-athro Ffrangeg, Alan Breeze, wedi ei disgrifio fel disgybl “galluog a meddylgar”.

Yn gyn-Brif Weinidog Ffrainc pan oedd Nicolas Sarkozy yn Arlywydd, mae Francois Fillon erbyn hyn yn cael ei ystyried fel y ceffyl blaen yn y ras arlywyddol ar ôl cael ei ethol i gynrychioli’r blaid Les Republicains ddydd Sul.

Mae ei wrthwynebydd Marine Le Pen hefyd yn cael ei hystyried fel ymgeisydd cadarn yn yr arolygon barn.

Bydd canlyniad yr etholiad yn cael ei gyhoeddi ar 7 Mai’r flwyddyn nesaf.