Llun: Cyngor Llyfrau
Mae ymchwil newydd i faes llyfrau plant Cymraeg yn ystyried a oes gormod o lyfrau sydd wedi’u haddasu o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Mae’r mater wedi bod yn un dadleuol yn y gorffennol gyda’r awdures Bethan Gwanas yn dweud bod angen gwario llai ar gyfieithu i’r Gymraeg a mwy ar gomisiynu sgwennu gwreiddiol.
Dr Siwan Rosser, darlithydd yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd, sy’n arwain yr ymchwil ar ran Cyngor Llyfrau Cymraeg ac fel rhan o’r gwaith mae hi wedi cyhoeddi holiadur ar-lein sy’n gofyn am farn pobol o sefyllfa sin lyfrau plant a phobol ifanc Cymraeg.
Ceir dau gwestiwn o fewn yr holiadur sy’n cyfeirio ar gyfieithiadau ac yn gofyn ‘ydych chi’n hoffi darllen llyfrau sydd hefyd ar gael yn Saesneg’ a pham?
Dywedodd Dr Siwan Rosser bod “cyfnod cyffrous ond heriol” yn wynebu’r diwydiant llyfrau ar hyn o bryd.
“Gydag addysg Gymraeg ar dwf mae’r galw am ddeunydd atyniadol yn cynyddu, ond mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn cyfyngu ar yr hyn sy’n bosibl i’w gyflawn,” meddai.
Dyfodol
Mae sawl cyfieithiad o lyfrau plant o’r Saesneg i’r Gymraeg wedi’u rhyddhau yn y mis diwethaf, gan gynnwys Sawl Cwsg tan ’Dolig? gan Jane Chapman a Yr Anrheg Berffaith gan Stella J Jones
Dadl Bethan Gwanas yw bod angen mwy o barch i nofelau plant gwreiddiol ac angen ysbrydoli mwy o awduron o wahanol ardaloedd hefyd.
Ond roedd hi hefyd yn cydnabod y gwahaniaeth sylweddol rhwng tâl awdur llyfrau plant o’i gymharu â llyfrau oedolion, gan ddweud bod grant o tua £8,000 – £10,000 ar gael i sgwennu nofel a dim ond tua £800 ar gyfer llyfr plant.
“Mae rhai’n credu nad ydy llenyddiaeth i fod yn hawdd … ond mi faswn i’n mynd mor bell â dweud, bod llenyddiaeth hawdd yn bwysicach ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.”