Dai Lloyd
Mae Cadeirydd Pwyllgor Chwaraeon y Cynulliad wedi galw ar i Lywodraeth Cymru fod yn “agored a thryloyw” ynghylch ei benderfyniad i ddod â gwaith y corff hybu chwaraeon i ben yn annisgwyl.
Dywedodd Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, bod y datblygiadau diweddar wedi codi pryderon mawr iddo.
Dydd Mercher, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod yn diarddel bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru am y tro yn sgil materion sydd wedi codi “dros y dyddiau diwethaf.”
Does dim mwy o fanylion wedi cael eu cyhoeddi eto, sydd wedi gadael nifer yn dyfalu beth aeth o’i le.
Gobeithio am fanylion
Mae’r Pwyllgor Chwaraeon, dan arweiniad Dai Lloyd, sydd hefyd yn gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, wedi galw am ragor o wybodaeth.
“Mae’r datblygiadau sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Cymru sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn destun pryder mawr i ni,” meddai’r Aelod Cynulliad.
“Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn agored ac yn dryloyw ynghylch ei rhesymeg, ac yn rhoi rhagor o fanylion inni ynghylch ei phenderfyniad a’r ffactorau a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw, cyn gynted ag y bo modd.”
“Fel rhan o gylch gwaith y Pwyllgor, mae chwaraeon, yn enwedig chwaraeon llawr gwlad, yn rhan hanfodol o gynnal ffordd o fyw a phoblogaeth iach ac rydym yn gobeithio y cymerir camau cyflym ac ystyriol i sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn parhau i arwain yr ymgyrch a’r cyfeiriad o’r brig i lawr.”