Hywel Williams a Siân Gwenllïan
Mae Aelod Cynulliad Arfon wedi galw am ystyried unwaith eto’r syniad o symud pencadlys S4C i Gaernarfon, yn hytrach na’i ddatblygu yng Nghaerfyrddin dan gynllun presennol ‘Yr Egin’.

Daw sylwadau Siân Gwenllïan yn dilyn adroddiadau ar Radio Cymru bod y cynllun yng Nghaerfyrddin “yn brin o tua £6m”, a bod cais am arian cyhoeddus gan Brifysgol Y Drindod Dewi Sant wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

“Pan benderfynodd Awdurdod S4C ym Mawrth 2014 i adleoli i Gaerfyrddin, roeddwn ar ddeall fod angen i’r cynllun fod yn un cost-niwtral,” meddai Siân Gwenllïan.

“Ymddengys nad yw cais Caerfyrddin yn ffitio’r disgrifiad hwnnw bellach.

“Fodd bynnag, mae cais Cyngor Gwynedd ar gyfer symud pencadlys S4C i Gaernarfon yn parhau i fod yn opsiwn dilys sydd angen ei drafod yn sgil yr amgylchiadau newydd sydd wedi dod i’r amlwg.”

Caernarfon – ‘cymaint i’w gynnig’

Ychwanegodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams: “Mae gennym lawer o gwmnïau teledu a chyfryngau llwyddiannus yn yr ardal yn ogystal â’r Galeri, cyfleuster celfyddydau o’r radd flaenaf.

“Mae gan Gaernarfon gymaint i gynnig. Ond gwelaf hyn fel datblygiad ehangach o fudd i’r ardal gweithio Gogledd – orllewin cyfan.

“Byddai’n clymu fewn gyda’r BBC ym Mangor a datblygiad uchelgeisiol Pontio’r Brifysgol. Gall cysylltiadau ei wneud gyda chyfleusterau newydd y BBC yn Salford hefyd yn y dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod wedi cyflwyno “cais cyffrous” yn 2014 i ddenu pencadlys S4C i Wynedd.

“Yn anffodus, nid oedd cais Gwynedd yn llwyddiannus. Mater i Lywodraeth Cymru fyddai penderfynu ar unrhyw gais am arian cyhoeddus i gynorthwyo gyda gwireddu cynllun arall ar gyfer adleoli’r pencadlys,” meddai’r llefarydd.

Cefndir

Prifysgol y Drindod Dewi Sant sy’n gyfrifol am ddatblygu ‘Yr Egin’ fel pencadlys newydd i S4C ac mae disgwyl iddo agor erbyn 2018.

Yn gynharach eleni, daeth i’r amlwg mai cwmni adeiladu Keir Group plc fyddai’n cael y gwaith adeiladu.

Mae disgwyl y bydd y Ganolfan yn creu 98 o swyddi newydd, gyda 75 o swyddi yn cael eu hadleoli gyda 55 o’r rheiny o S4C.

S4C “yn hyderus” mai Caerfyrddin fydd hi

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Tenant fydd S4C yng Nghanolfan S4C yr Egin, tenant pwysig, tenant angor, ond Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant sydd yn gyfrifol am ariannu ac adeiladu’r ganolfan.

“Mae S4C wedi cael sicrwydd gan PCDDS o gychwyn y broses y bydd yr arian ar gael i wireddu‘r cynllun adleoli cynhyrfus hwn, ar y sail ei fod yn gost niwtral i S4C.

“Rydym yn hyderus fod y sicrwydd hwn yn dal i fodoli,” meddai’r llefarydd.

“Nid mater unfed awr ar ddeg yw hyn” 

Mewn datganiad fe ddywedodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant: ‘Dymuna’r Brifysgol ail-ddatgan fod y cais a ystyriwyd gan S4C yn seiliedig ar y sail y byddai unrhyw symudiad yn gost niwtral i’r Awdurdod [S4C].  Y mae hynny yn sefyll.  Nodwyd hefyd yn y cais y byddai cyflwani clwstwr creadigol yn Sir Gâr yn golygu ystyried sawl ffynhonnell ariannol.  Yr oedd hynny yn y cais cychwynol. Y mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y drafodaeth honno wedi cychwyn yn 2014.  Does dim newid wedi digwydd o safbwynt y broses o wireddu’r cynlluniau gwreiddiol.  Nid mater unfed awr ar ddeg yw hyn ond parhau proses.

‘Gweledigaeth Yr Egin yw datblygu canolfan greadigol a digidol yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â datblygu clwstwr o fewn y sector creadigol er mwyn cefnogi adfywiad economaidd yn y Gorllewin sy’n adeiladu ar benderfyniad S4C i sefydlu ei phencadlys a’i gweithgareddau comisiynu yng Nghaerfyrddin.

‘Gydag S4C yn brif denant yn yr adeilad bydd ystod o gwmnïau eraill yn cydleoli gyda’r Sianel o fewn yr un adeilad er mwyn sbarduno twf economaidd a chreu swyddi ar draws De Orllewin Cymru.’

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.