Mae llwyddiant Cymru'n help, meddai'r heddlu (Llun Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Mae cefnogwyr pêl-droed Caerdydd ac Abertawe wedi cael eu canmol am eu hymddygiad yn ystod y tymor diwetha’ wrth i ffigurau swyddogol ddangos eu bod yn bihafio’n well na’r rhan fwya’ o brif glybiau cynghreiriau Lloegr.

Fe ddaw hynny ychydig flynyddoedd ers pan oedd ffans Caerdydd yn achosi trafferthion cyson a phan oedd gêmau rhwng y ddau glwb yn aml yn troi’n drais ar y terasau.

Mae ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref yn dangos mai dim ond 36 o bobol a gafodd eu harestio o blith cefnogwyr  y ddau glwb yn ystod tymor 2015-16 – 16 yng Nghaerdydd a 20 yn Abertawe.

Llwyddiant yn helpu meddai’r heddlu

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae llwyddiant pêl-droed Cymru’n rhan o’r rheswm am y newid ymddygiad, gyda’r peryg o gael eu gwahardd o gêmau yn cadw cefnogwyr ar y llwybr cul.

Mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth o “ba mor bell rydym wedi dod dros y ddeng mlynedd diwetha’” meddai Steve Jones, Prif Arolygydd gyda Heddlu De Cymru.

“Ein neges i gefnogwyr cartref ac oddi cartref sydd â’r bwriad o fynd i gêm bêl-droed er mwyn achosi trwbl yw y byddan nhw’n cael eu harestio a bron yn sicr o gael eu gwahardd.

“Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o bêl-droed Cymru, ac rwy’n credu bod cael eu gwahardd a’u atal rhag mwynhau hynny yn bris rhy uchel i’w dalu i’r rhan fwyaf.”

Manylion y ffigurau

  • Roedd cyfanswm Abertawe a Chaerdydd gyda’i gilydd yn llai na chyfanswm 18 o glybiau unigol yn yr Uwch Gynghrair a’r Benmcampwriaeth yn Lloegr.
  • Yn ôl y Swyddfa Gartref, cafodd 1,895 o arestiadau eu gwneud ar draws Prydain yn ystod yr un cyfnod.
  • ran y nifer o orchmynion gwahardd ar gefnogwyr, roedd gan Gaerdydd ac Abertawe gyfanswm o 48 rhyngddyn nhw, ond doedd yr un o’r gwaharddiadau hynny wedi’u torri.
  • Ar draws Cymru a Lloegr, mae’r Swyddfa Gartref yn nodi bod 2,085 o orchmynion gwahardd mewn grym rhwng haf 2015 a haf eleni.