Fe fydd Clwb Criced Morgannwg yn cynnal eu gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed o dan y llifoleuadau’r tymor nesaf.
Cafodd rhestr gemau’r gystadleuaeth pedwar diwrnod a chystadleuaeth 50 pelawd Royal London eu cyhoeddi am ganol nos neithiwr.
Bydd Morgannwg yn herio Prifysgolion Caerdydd yr MCC mewn gêm tri diwrnod gyfeillgar sy’n dechrau ar Fawrth 28.
Y Bencampwriaeth
Yn 2017, fe fydd wyth tîm yn yr adran gyntaf, a bydd Morgannwg ymhlith y 10 tîm yn yr ail adran.
Ond bydd pob tîm yn chwarae 14 o gemau, sy’n golygu na fydd rhai siroedd yn wynebu ei gilydd mwy nag unwaith.
Bydd ymgyrch Morgannwg yn dechrau oddi cartref yn Swydd Northampton ar Ebrill 7 ac am y tro cyntaf erioed, fe fydd rownd gyfan o gemau pedwar diwrnod yn cael eu cynnal o dan y llifoleuadau.
Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, a bydd pêl binc yn cael ei defnyddio ar gyfer y gemau.
Bwriad yr arbrawf yw paratoi chwaraewyr rhyngwladol ar gyfer gêm Lloegr yn erbyn India’r Gorllewin yn Edgbaston, Swydd Warwick ym mis Awst.
Swydd Derby fydd gwrthwynebwyr Morgannwg ar gyfer y gêm arbrofol fydd yn dechrau ar Fehefin 26.
Nid dyma fydd y tro cyntaf i Forgannwg gymryd rhan mewn gêm o’r fath, fodd bynnag, ar ôl i arbrawf tebyg gael ei gynnal yn 2011 yng Nghaergaint. Y Cymry enillodd bryd hynny.
Bydd y rhan fwyaf o gemau pedwar diwrnod yn ystod y tymor yn dechrau ar ddydd Gwener neu ddydd Llun.
Gemau’r Bencampwriaeth
Dyddiad | Gwrthwynebwyr | Lleoliad |
Ebrill 7 | Swydd Northampton | Northampton |
Ebrill 14 | Swydd Gaerwrangon | Caerdydd |
Ebrill 21 | Swydd Gaerlŷr | Caerlŷr |
Mai 19 | Swydd Nottingham | Caerdydd |
Mai 26 | Swydd Durham | Abertawe |
Mehefin 9 | Swydd Gaerwrangon | Caerwrangon |
Mehefin 19 | Swydd Durham | Chester-le-Street |
Mehefin 26 | Swydd Derby | Caerdydd |
Gorffennaf 3 | Swydd Gaerloyw | Cheltenham |
Awst 28 | Swydd Sussex | Bae Colwyn |
Medi 5 | Swydd Derby | Derby |
Medi 12 | Swydd Northampton | Caerdydd |
Medi 19 | Swydd Gaerloyw | Caerdydd |
Medi 25 | Swydd Gaint | Caergaint |
Bydd cystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn dechrau ar Ebrill 27, gyda rownd yr wyth olaf ar Fehefin 13 ac 14, y rownd gyn-derfynol ar Fehefin 16 ac 17, a’r rownd derfynol yn Lord’s ar Orffennaf 1.
Cafodd rhestr gemau’r T20 Blast ei chyhoeddi brynhawn ddoe.
Gemau 50 pelawd Royal London
Dyddiad | Gwrthwynebwyr | Lleoliad |
Ebrill 27 | Swydd Gaerloyw | Bryste |
Ebrill 30 | Swydd Surrey | Caerdydd |
Mai 2 | Swydd Sussex | Hove |
Mai 5 | Gwlad yr Haf | Caerdydd |
Mai 7 | Swydd Essex | Caerdydd |
Mai 12 | Swydd Hampshire | Southampton |
Mai 14 | Swydd Gaint | Abertawe |
Caeau allanol
Y newyddion da i gefnogwyr Morgannwg yn y de orllewin a’r gogledd yw fod y traddodiad o gynnal gemau yn San Helen a Bae Colwyn yn parhau yn 2017.
Bydd gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Gaint yn Abertawe ar Fai 14, a gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yn dechrau ar Fai 26.
Swydd Sussex fydd y gwrthwynebwyr yn y Bencampwriaeth ar gyfer y daith flynyddol i Fae Colwyn ar Awst 28.