Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cael clywed y byddan nhw’n dechrau eu hymgyrch ugain pelawd yn y T20 Blast gartref yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd ar Orffennaf 7.

Llwyddodd y sir i gyrraedd rownd yr wyth olaf y tymor diwethaf cyn colli yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd.

Bydd eu holl gemau’n cael eu cynnal dros gyfnod o 43 diwrnod, gyda’r gystadleuaeth yn dod i ben i’r Cymry yng Nghaerdydd ar Awst 18 wrth iddyn nhw groesawu Swydd Middlesex i’r brifddinas.

Mae’r drefn wedi newid ar gyfer tymor 2017, gyda’r cystadlaethau’n cael eu cynnal mewn blociau unigol drwy gydol y tymor.

Bydd Morgannwg yn chwarae 14 o gemau ugain pelawd i gyd, gyda saith ar eu tomen eu hunain a saith oddi cartref.

O blith y gemau cartref, bydd chwech ohonyn nhw’n cael eu cynnal o dan y llifoleuadau.

Bydd rownd yr wyth olaf yn ystod wythnos Awst 22, a Diwrnod y Ffeinals yn Edgbaston, Swydd Warwick ar ddydd Sadwrn, Medi 2.

Bydd rhestr y gemau ar gyfer y Bencampwriaeth a’r Gwpan Undydd yn cael eu cyhoeddi am 12 o’r gloch heno.

Mae Morgannwg wedi cyhoeddi mai £60 fydd pris tocyn ar gyfer y gystadleuaeth gyfan.

Y gemau’n llawn:

Nos Wener, Gorffennaf 7: Swydd Hampshire (Cartref, Caerdydd, 6.30)

Dydd Sul, Gorffennaf 9: Swydd Sussex (Oddi cartref, Arundel, 2.30)

Nos Sadwrn, Gorffennaf 15: Gwlad yr Haf (Cartref, Caerdydd, 6.30)

Dydd Sul, Gorffennaf 16: Swydd Essex (Oddi cartref, Chelmsford, 2.30)

Nos Wener, Gorffennaf 21: Swydd Sussex (Cartref, Caerdydd, 6.30)

Dydd Sul, Gorffennaf 23: Swydd Essex (Cartref, Caerdydd, 2.30)

Nos Fawrth, Gorffennaf 25: Swydd Gaerloyw (Oddi cartref, Bryste, 6.30)

Nos Wener, Gorffennaf 28: Swydd Surrey (Cartref, Caerdydd, 6.30)

Dydd Sul, Gorffennaf 30: Swydd Gaint (Oddi cartref, Caergaint, 2.30)

Nos Iau, Awst 3: Swydd Gaerloyw (Cartref, Caerdydd, 6.30)

Nos Wener, Awst 4: Swydd Surrey (Oddi cartref, Yr Oval, 6.30)

Nos Iau, Awst 10: Swydd Hampshire (Oddi cartref, Southampton, 6.30)

Dydd Sul, Awst 13: Gwlad yr Haf (Oddi cartref, Taunton, 2.30)

Nos Wener, Awst 18: Swydd Middlesex (Cartref, Caerdydd, 6.30)