Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid
Mae Ysgrifennydd Cyllid, Llywodraeth Cymru, wedi beirniadu “newidiadau mân” Canghellor y Trysorlys i’r arian refeniw y bydd Cymru’n ei dderbyn fel rhan o Ddatganiad yr Hydref.

Roedd y datganiad a wnaed gan Philip Hammond heddiw yn cynnwys dros £400m o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru rhwng 2016-17 a 2020-21 a £35.8m o gyllid refeniw rhwng 2016-17 a 2019-20.

“Rydyn ni fel Llywodraeth wedi bod yn gwbwl glir am bwysigrwydd buddsoddi yn seilwaith Cymru,” meddai Mark Drakeford.

“Yn y cyfnod ansicr sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed. Dyma pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi hwb i fuddsoddiad er mwyn cefnogi twf economaidd.

“Er nad yw cyhoeddiad heddiw yn mynd mor bell ag oeddem yn ei ddymuno, mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gwneud rhywfaint i adfer y toriadau a welwyd i’n cyllideb cyfalaf dros y blynyddoedd diwetha’.

“Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn darparu adnoddau ychwanegol i’n galluogi i barhau i fuddsoddi mewn seilwaith newydd, creu swyddi a sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried sut i ddefnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i gefnogi’n blaenoriaethau o ran buddsoddi.

“Mae Cymru wedi dangos bod dewis arall yn lle cyni,” meddai Mark Drakeford wedyn. “Yn ein Cyllideb ddrafft fis diwetha’, darparwyd sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan barhau i’w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf agenda cyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi pwysleisio droeon bwysigrwydd bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bargen dwf gogledd Cymru. Mae trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y ddwy. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig symud ymlaen gyda’r bargeinion pwysig hyn nawr i fanteisio’n llawn ar eu potensial.”