Ynys Byr (Llun oddi ar wefan www.caldey-island.com)
Mae ynys fechan oddi ar arfordir Cymru, sy’n gartref i fynachod a ffermwyr, wedi cofnodi ei throsedd gynta’ erioed.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Ynys Bŷr ger Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro, i arestio ymwelydd wedi iddo daro ei fab saith oed am “gamymddwyn”.
Mae’r gŵr 45 oed o Dudley yng nghanolbarth Lloegr wedi ymddangos mewn llys yn Hwlffordd yr wythnos er mwyn cyfaddef i’r drosedd.
Mae Ynys Bŷr yn gartref i lond llaw o ffermwyr a mynachod sy’n creu siocled, persawr a bisgedi mewn ffatrïoedd bychan. Mae tua 3,000 o bobol yn ymweld â’r ynys rhwng mis Ebrill a Hydref.
Be’ ddigwyddodd?
Cafodd swyddogion heddlu eu cludo i’r ynys gan yr RNLI ar Fedi 1 yn dilyn adroddiadau bod tystion wedi gweld dyn yn codi bachgen gerfydd ei wddf y tu allan i ffatri siocled ar yr ynys.
Dywedodd John Cattini, rheolwr yr ynys ers dros 40 mlynedd, mai dyma’r drosedd gynta’ ar yr ynys i gyrraedd y llys.
Yn y llys, dywedodd y tad bod ei fab yn “camymddwyn” ac yn gwrthod gwrando arno ac nad oedd wedi bwriadu ei anafu.