Dydd Mercher fydd y diwrnod olaf i landlordiaid preifat yng Nghymru fedru cofrestru gyda chynllun newydd Rhentu Doeth Cymru, neu fe allen nhw wynebu cosb.

Bwriad Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r cynllun ydy codi safonau o fewn y sector rhentu preifat.

Ond mae oedi wedi bod yn y drefn gofrestru yn y misoedd diwetha’, yn ôl y Llywodraeth, sy’n golygu bod rhai pobol wedi methu â chofrestru erbyn y dyddiad cau.

Rhuthr

Erbyn canol nos, nos Lun, Tachwedd 21, roedd dros 55,000 o landlordiaid preifat wedi cofrestru, 12,000 yn rhagor wedi dechrau ar y broses gofrestru, ac roedd dros 81,000 o ddefnyddwyr wedi creu cyfrifon ac yn rhan o’r broses gydymffurfio.

Ond mae’r Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant, wedi cyfadde’ bod llwyth gwaith uchel wedi arwain at oedi o fewn y broses gofrestru:

“Mae rhuthr mawr wedi bod i gofrestru yn y misoedd diwethaf. O ganlyniad, mae Rhentu Doeth Cymru wedi cymryd mwy o amser na’r arfer i ymateb i rai galwadau ac e-byst. Rwy’n gwerthfawrogi bod hyn wedi achosi pryder i rai landlordiaid sydd heb allu cwblhau’r broses gofrestru a thrwyddedu.

“Mae Rhentu Doeth Cymru wedi dweud na fydd y rheini sydd wedi dechrau ar y broses gydymffurfio yn wynebu camau gorfodi os ydynt wedi gwneud popeth posibl i geisio cydymffurfio.

“Ond, nid yw hyn yn esgus i anwybyddu’r gyfraith. Mae fy neges i landlordiaid preifat yn glir – mae’n rhaid i chi gymryd camau i gydymffurfio â gofynion y gyfraith”.