Ben Carson (Llun o Wikipedia gan Gage Skidmore)
Mae Donald Trump wedi cynnig un o swyddi pwysicaf y Tŷ Gwyn i un o’i gyd-ymgeiswyr yn y ras arlywyddol, Ben Carson.

Cafodd y cyn-lawfeddyg o Detroit gynnig i arwain yr Adran Dai a Datblygiadau Trefol, ac mae disgwyl iddo gyhoeddi a fydd yn derbyn y cynnig ar ôl cyfnod y Diolchgarwch.

Daw wrth i Donald Trump wynebu pwysau cynyddol i gondemnio achosion o brotestiadau hiliol sy’n cael eu gwneud yn ei enw yn yr Unol Daleithiau.

Y gyfraith

Mewn cyfweliad gyda’r New York Times, mae’r darpar arlywydd hefyd wedi dweud na fydd yn cadw at ei air ac yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Hillary Clinton yn dilyn y sgandal ebyst.

Mae’r dyn busnes erbyn hyn wedi gadael i dreulio’r gwyliau yn ei ystâd yn Fflorida, gyda’i ymgynghorwyr yn dweud ei fod am ganolbwyntio ar faterion cyfredol yn hytrach na’r hyn a ddywedodd yn ystod yr ymgyrch arlywyddol.