Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd
Bydd  myfyrwyr chweched dosbarth o chwe ysgol uwchradd ledled Cymru yn cael cyfle i roi eu barn ar amrywiaeth o bynciau gwleidyddol ar lawr Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.

Bydd y bobol ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau yn Siambr Hywel, yn Nhŷ Hywel a herio rhai o Aelodau Cynulliad, ar bynciau yn amrywio o Brexit i ddefnydd pobl ifanc o’r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y drafodaeth yn cael ei ddarlledu ar wefan y rhaglen Hacio.

Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ysgol Gyfun Creuddyn, Ysgol Bro Teifi, Ysgol Uwchradd Tryfan, Ysgol Gyfun Plasmawr ac Ysgol Gyfun y Cymer.

Fe fydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones yn noddi’r sesiwn yn Senedd Cymru i’w gynnal ddydd Mawrth, Tachwedd 22.

‘Senedd Ieuenctid’

Dywedodd Y Llywydd, Elin Jones: “Mae’n bleser gennyf groesawu Hacio a disgyblion o bob cwr o Gymru i’r Senedd eto eleni, i drafod Brexit, a phynciau eraill sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar eu bywydau, fel addysg, tai ac iechyd.

“Wythnos diwetha’, cyhoeddais fy mwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid fydd yn galluogi trafodaeth gyson ar bynciau llosg, a sicrhau modd i lais ieuenctid Cymru ddylanwadu ar ystyriaeth y ddeddfwrfa o faterion perthnasol hefyd.

“Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’r sawl sy’n bresennol ystyried sut yr hoffent weld Senedd Ieuenctid yn datblygu cyn y byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda phlant a phobol ifanc Cymru y flwyddyn nesa’.”

Llwyfan i farn pobol ifanc

Croesawodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant a Phobol Ifanc S4C fod yna lwyfan i farn pobol ifanc: “Rydym yn falch bod Hacio’n Holi yn rhoi llwyfan i farn pobol ifanc yng Nghymru ar faterion cyfoes; llais sy’n cael ei anwybyddu’n aml gan gymdeithas.

“Mae’n bleser gallu cydweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ac ITV Cymru i godi ymwybyddiaeth am wleidyddiaeth a democratiaeth ymysg pobol ifanc.

“Rwy’n siŵr y byddwn ni’n clywed trafodaethau difyr iawn yn y Senedd, ac y byddwn ni’n darganfod ambell wleidydd ar gyfer y genhedlaeth nesa’.”