Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o dras Asiaidd wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd er mwyn cael merched Mwslimaidd i gael rhyw ag o, cyn ffilmio’r weithred yn gyfrinachol a bygwth ei gyhoeddi ar y we.

Fe waeth Farhan Mirza, 38, o Abertyleri, Blaenau Gwent hefyd orfodi tair merch i roi arian iddo i beidio cyhoeddi’r ffilmiau ohonyn nhw a’u dosbarthu i’w teuluoedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Farhan Mirza yn gwadu cyhuddiadau o foyeuriaeth, blacmel, dwyn a thwyll – gan gynnwys cymryd arno fod yn feddyg – dros gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd yr erlynydd Timothy Evans fod Mirza wedi “targedu’r merched yn ofalus” oherwydd eu cefndir gwleidyddol a chrefyddol.

Mae’r achos yn parhau.