Mae ChildLine wedi derbyn 71 o alwadau eleni gan blant yng Nghymru sy’n gofidio am ymosodiadau brawychol.
Roedd nifer o’r galwadau’n mynegi pryder am ryfel neu’r posibilrwydd y gallai ymosodiad brawychol niweidio aelodau’r teulu.
Cafodd 111 o alwadau tebyg eu derbyn yn yr Alban.
Roedd un o bob pump o’r galwadau drwy holl wledydd Prydain gan blant 11 oed neu iau.
Mae gan Childline ddwy ganolfan yng Nghymru, y naill yng Nghaerdydd a’r llall ym Mhrestatyn.
Mae lle i gredu bod ymosodiadau ym Mharis, Brwsel, Orlando, Nice a Munich i gyd wedi cyfrannu at y cynnydd sylweddol mewn galwadau.
Dywed Childline fod merched yn fwy tebygol na bechgyn o gysylltu â nhw.
Mae’r elusen yn cynnig cymorth i rieni ynghylch sut i siarad â’u plant am eu pryderon.