Bydd yr Athro Sioned Davies o Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno rhaglen arbennig am Y Mabinogi ar BBC Radio 3 nos yfory.
Yr Athro Davies luniodd y cyfieithiad cyntaf o’r chwedlau i’r Saesneg ers 30 o flynyddoedd yn 2008.
Bydd ei rhaglen hithau’n gyflwyniad i’r Mabinogi.
Bydd y gyfres ‘The Essay’ yn gyfle i bump awdur o Gymru gyflwyno un o chwedlau’r Mabinogi dros gyfnod o bum noson.
Mae’r gyfres yn rhoi gwedd a dadansoddiad newydd o’r chwedlau, ynghyd â darlleniadau o’r testunau gwreiddiol.
Yr awduron eraill sy’n cymryd rhan yn y gyfres yw James Hawes, Gwyneth Lewis, Jon Gower a Horatio Clare.
Bydd y pynciau eraill yn y gyfres yn cynnwys yr hyn y gall y Mabinogi ei ddysgu i ni am y grefft o adrodd stori, dadansoddiad newydd o ‘Blodeuwedd’, rôl natur mewn chwedlau Celtaidd a dadansoddiad o hanes Lludd a Llefelys.